Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diwygio Is-ddeddfwriaeth (Cywiriadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Pwynt Craffu Technegol 1: Nid yw’r pwynt adrodd hwn yn cael ei dderbyn. Mae’r addasiadau a wnaed i adran 37 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 gan Ran 4 o’r Atodlen i Reoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 yn llwyddiannus gan eu bod wedi eu gwneud i’r is-adrannau yn adran 37 a gymhwysir gan reoliad 6. Nid yw rheoliad 6 yn cymhwyso adran 37 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn ei chyfanrwydd, ond yn hytrach, mae’n cymhwyso is-adrannau (1), (3), (5) a (6) yn unig. Nid yw’r cyfeiriadau at “subsection (1)(c)” ac at y “sheriff” yn adran 37(2) a (4), yn y drefn honno, o fewn y darpariaethau a gymhwysir at ddibenion Rheoliadau 2007.
Pwynt Craffu Technegol 2: Gall Llywodraeth Cymru gadarnhau bod hyn yn benderfyniad polisi ac yn fwriadol. Mae’r cyfeiriadau at Ymddiriedolaeth y GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn paragraff 6 o Atodlen 2 i gael eu cyfyngu i gyrff Cymreig a grëwyd gan Weinidogion Cymru, tra bod y termau hynny a ddefnyddir yng nghyd-destun y term diffiniedig “corff gwasanaeth iechyd” yn golygu’r rhai a grëwyd gan Weinidogion Cymru neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 3: Nodir y pwynt, ond byddai dilyn dull arall wedi arwain at deitl anhylaw.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 4: Pan fydd y Llywodraeth yn cytuno bod gwall mewn deddfwriaeth y mae’n ofynnol cymryd camau i’w gywiro, mae asesiad yn cael ei gynnal ynghylch pryd y byddai’n briodol gwneud y newid hwnnw ac a oes cyfrwng addas i gyflawni hynny yn debygol o fod ar gael. Bydd yr asesiad hwn bob amser yn rhoi sylw dyledus i’r ffaith y bydd y gwall yn parhau i fod ar y llyfr statud hyd nes iddo gael ei gywiro.
Bwriad y Llywodraeth yw ystyried gwersi i’w dysgu ar ôl ymdrin â chywiriadau i is-ddeddfwriaeth drwy ddefnyddio offeryn “omnibws”. Bydd y Llywodraeth wedyn yn penderfynu a ddylid cyflwyno offerynnau omnibws pellach ai peidio.
Mae’r Llywodraeth yn nodi ac yn olrhain ymrwymiadau y mae wedi eu gwneud i gywiro deddfwriaeth fel bod diwygiadau yn cael eu gwneud ar yr adeg briodol.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 5: Mae’r Llywodraeth yn rhannu barn y Pwyllgor bod manteision ac anfanteision i’r dull a ddilynwyd, a nod y dull hwnnw oedd galluogi’r darllenydd i nodi’r pwerau perthnasol yn haws.